Beth am i ni fynd allan i chwarae?! Mae chwarae tu allan yn dda i blant. Maent yn datblygu a dysgu ym mhob math o ffyrdd wrth chwarae... ond yn bennaf oll, mae plant yn cael hwyl pan maen nhw’n chwarae! Dros y misoedd diwethaf, mae cyfleoedd plant i chwarae tu allan wedi bod yn gyfyngedig. Nawr bod rhai o’r cyfyngiadau sy’n ymwneud â’r pandemig coronafeirws wedi eu llacio, fel meysydd chwarae yn ail-agor, gall plant ddechrau mwynhau’r awyr agored unwaith eto, beth bynnag yw’r tywydd yng Nghymru! Pam bod chwarae yn yr awyr agored yn bwysig? Mae chwarae yn yr awyr agored yn: rhoi lle i blant redeg, dringo, rowlio, neidio, cuddio, a llosgi eu hegni golygu y gall plant chwarae gyda phethau naturiol fel dŵr, tywod, mwd, gwair, rhisgl a brigau caniatáu plant i ddarganfod y byd naturiol, er enghraifft gweld pa greaduriaid ddaw allan mewn gwahanol dywydd helpu plant i ddysgu am y tymhorau a’n tywydd hynod o amrywiol, trwy eu profi eu hunain helpu plant i ddysgu sut i edrych ar eu hôl eu hunain – er enghraifft, sylweddoli pa mor llithrig yw rhew, a’r angen i yfed dŵr a gwisgo het pan mae’n heulog helpu i ddatblygu synhwyrau plentyn – eu golwg, clyw, synnwyr arogl, cyffyrddiad a blâs achosi llai o straen ac yn llai diflas i oedolion os yw plant yn swnllyd y tu allan, yn hytrach nac yn y tŷ hwyl! Syniadau chwarae yn yr awyr agored Os oes angen ychydig o ysbrydoliaeth ar dy blant ar beth i'w chwarae yn yr awyr agored, dyma ambell syniad: Creu cuddfan Chwarae sgots (hopscotch) Chwarae cuddio Cacen mwd Helfa pryfetach Adeiladu gwesty pryfetach Gwersylla yn yr ardd Creu gŵyl gerddorol ar gyfer y teulu Helfa drysor Mae’r llawr yn lafa Tê parti yn yr awyr agored Cwrs rhwystrau. Cymryd rhan Beth mae dy blant di’n mwynhau chwarae yn yr awyr agored? Ymuna â Haf Chwareus drwy rannu dy syniadau chwarae gyda ni – tagia ni ar y cyfryngau cymdeithasol – Facebook, Instagram a Twitter – a phaid ag anghofio defnyddio’r hashnod #HafChwareus.