25 syniad chwarae gorau ar gyfer gwyliau’r haf Yr haf hwn, rydym yn annog teuluoedd i helpu eu plant fwynhau Haf o Chwarae drwy gydol gwyliau’r haf. Er mwyn helpu oedolion i roi haf llawn hwyl a chwarae i blant, dyma ein 25 syniad chwarae gorau sy’n syml a ddim yn costio rhyw lawer: Chwarae gêm o tic Chwarae cuddio Chwarae ‘sgots Creu cuddfan Dringo coeden Rolio lawr ochr bryn Cael ras berfa Rhedeg ar ôl swigod Creu cacen fwd Cael brwydr gyda dŵr Creu car, castell neu long gofod gyda bocsys cardbord Chwarae mae’r llawr yn lafa Gwisgo i fyny Cynnal picnic tedi bêrs Cael hwyl gyda sialc Chwarae delwau cerddorol Gwersylla yn yr ardd Creu offerynnau cerdd gyda hen eitemau o’r tŷ Creu gŵyl gerddorol Cael hwyl gyda balwnau – cadw’r balŵn oddi ar lawr a rasys gyda balwnau rhwng eich coesau Creu llun argraffu gyda’r bysedd neu’r dwylo Creu pypedau sanau Mynd ar helfa pryfetach Creu cwrs rhwystrau Mynd ar helfa drysor. Cymryd rhan Rydym am glywed am hoff syniadau chwarae eich plant ar gyfer yr haf – rhannwch gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio’r hashnod #HafOChwarae. Darllen mwy am Haf o Chwarae