Skip over main navigation
  • Log in
  • Basket: (0 items)
Plentyndod Chwareus
  • Instagram
  • Facebook
  • Pinterest
CYMRAEG ENGLISH
Cysylltwch â ni
Menu
  • Amdanom ni
    • Am Plentyndod Chwareus
    • Am Chwarae Cymru
    • Amser i Chwarae
    • “Pan o’n i dy oed di”
  • Magu plant yn chwareus
    • Am fagu plant yn chwareus
    • Cefnogi arddegwyr
    • Chwarae dan do
    • Pam fod chwarae'n bwysig i dy blentyn di
    • Am chwarae
    • Amser i chwarae
    • Lle i chwarae
    • Canllawiau 'Sut i...'
    • Pethau i chwarae gyda nhw
    • Awgrymiadau ar gyfer magu plant yn chwareus
    • Chwarae sy’n cynnwys pob plentyn
    • Adnoddau Plentyndod Chwareus
  • Cymunedau chwareus
    • Am Gymunedau chwareus
    • Cynyddu ymwybyddiaeth am chwarae
    • Cynllunio dy ardal chwarae
    • Chwarae ar dy stryd
    • Canllawiau 'sut i'...
    • Ymgeisio am gyllid
    • Enghreifftiau yng Nghymru
    • Cyfeiriadur gwasanaethau chwarae
  • Blog
    • Blog Plentyndod Chwareus
  • Admin
    • Log in
  • Basket: (0 items)
  • Am Plentyndod Chwareus

Am Plentyndod Chwareus

Mae Plentyndod Chwareus yn ymgyrch sy’n anelu i helpu rhieni a gofalwyr i roi:

  • amser
  • lle
  • cefnogaeth 

i blant chwarae gartref ac yn eu cymuned leol.

Mae cael cyfle i chwarae’n rhan bwysig o blentyndod hapus ac iach i bob plentyn. Mae chwarae’n hwyl ac mae wastad wedi bod yn rhan o sut y bydd plant yn dysgu a thyfu. Dyma un o elfennau pwysicaf eu bywydau – mae plant yn gwerthfawrogi cael amser, lle a chefnogaeth i chwarae adref ac yn eu cymuned leol.

Mae plant yn dweud wrthym eu bod eisiau mwy o gyfleoedd i chwarae’r tu allan gyda’u ffrindiau. Mae chwarae’n rhan allweddol o blentyndod iach a hapus.

Fel oedolion, ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod hyn yn digwydd.

Magu plant yn chwareus

Mae rhieni a gofalwyr yn gefnogwyr pwysig o chwarae i blant – beth bynnag yw eu hoedran. Waeth os ydi dy blentyn yn chwarae pi-po, yn neidio mewn pyllau dŵr, neu’n dechrau bod eisiau mentro allan ar eu pen eu hunain gyda ffrindiau, mae adran Magu Plant yn Chwareus y wefan yn llawn awgrymiadau anhygoel, syniadau da a chynghorion defnyddiol am chwarae i bob plentyn.

Cymunedau chwareus

Mae gan grwpiau fel cymdeithasau trigolion, Cymdeithasau Rhieni ac Athrawon mewn ysgolion a chynghorau tref a chymuned i gyd ran bwysig i’w chwarae. Gall grwpiau fel hyn gefnogi drwy drefnu digwyddiadau awyr agored neu ymgyrchu am ardaloedd chwarae plant a thrwy helpu i hybu newid mewn agweddau ac arferion. Mae adran Cymunedau Chwareus y wefan yn cynnwys toreth o wybodaeth a chynghorion i helpu grwpiau ystyried chwarae plant yn eu cymuned.

Crëwyd Plentyndod Chwareus i gefnogi:

  • rhieni i roi cyfleoedd i’w plant chwarae
  • rhieni, fel eu bod yn teimlo’n hyderus ynghylch gadael i’w plant chwarae’r tu allan yn y gymuned
  • datblygu cymunedau chwareus ar gyfer plant ar hyd a lled Cymru
  • dealltwriaeth gyffredin o bwysigrwydd chwarae ar gyfer plant a phlant yn eu harddegau gan bob oedolyn ledled Cymru.

 

Mae Plentyndod Chwareus yn ymgyrch gan Chwarae Cymru.

Published: 10th November, 2017

Updated: 4th December, 2020

Author:

Share this page
  • Email
  • Facebook
  • Twitter

Latest

  • Cystadleuaeth Diwrnod y Llyfr – cyfle i ennill pecyn chwarae

    Cystadleuaeth Diwrnod y Llyfr – cyfle i ennill pecyn chwarae

    Dy gyfle i ennill pecyn chwarae

  • Chwarae gartref yn ystod hanner tymor

    Chwarae gartref yn ystod hanner tymor

    Annog chwarae annibynnol dy blentyn, i rieni a gofalwyr prysur

  • Llyfr stori Hwyl ar iard yr ysgol

    Llyfr stori Hwyl ar iard yr ysgol

    Llyfr stori hawl i chwarae newydd allan nawr – copïau rhad ac am ddim ar gael

  • Rhannwch eich barn am ein gwefan

    Rhannwch eich barn am ein gwefan

    Llenwch ein harolwg cyflym i gael cyfle i ennill taleb gwerth £25

Most read

  • “Pan o’n i dy oed di”

    “Pan o’n i dy oed di”

    Prosiect newydd Plentyndod Chwareus

  • Am Plentyndod Chwareus

    Am Plentyndod Chwareus

    Mae Plentyndod Chwareus yn cefnogi rhieni, gofalwyr, neiniau, teidiau, mam-guod a thad-cuod i roi amser, lle a chefnogaeth i blant chwarae gartref ac yn eu cymuned

  • Am fagu plant yn chwareus

    Am fagu plant yn chwareus

    Syniadau i rieni a gofalwyr gefnogi chwarae plant a magu plant yn chwareus

  • Amser i chwarae

    Amser i chwarae

    Syniadau rhad, neu rad ac am ddim, er mwyn gwneud yn siŵr bod dy blentyn yn cael digon o amser i chwarae bob dydd

  • Pethau i chwarae gyda nhw

    Pethau i chwarae gyda nhw

    Syniadau am bethau bob dydd, rhannau rhydd, i gefnogi chwarae plant

  • Syniadau ar gyfer chwarae o gwmpas dy gartref

    Syniadau ar gyfer chwarae o gwmpas dy gartref

  • Adnoddau Plentyndod Chwareus

  • Am gymunedau chwareus

    Am gymunedau chwareus

    Gwybodaeth ymarferol i wneud dy gymuned yn chwareus a sut i gynyddu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd chwarae plant

  • Sut i ddelio gyda chwarae poitshlyd

    Sut i ddelio gyda chwarae poitshlyd

    Pam fod fy mhlentyn yn hoffi gwneud llanast? Buddiannau chwarae poitshlyd a sut i ddelio gyda dy bryderon fel rhiant

  • Buddiannau chwarae

    Buddiannau chwarae

    Mae gan chwarae bob math o fuddiannau i blant - corfforol, emosiynol a chymdeithasol

Cadw mewn cysylltiad

Please enter your first name
Please enter your last name
Please enter your email address Please enter a valid email address (e.g. [email protected])
  • Map o’r wefan
  • Hygyrchedd
  • Telerau ac amodau
  • Polisi preifatrwydd
  • Instagram
  • Facebook
  • Pinterest

Mae Plentyndod Chwareus yn ymgyrch gan Chwarae Cymru.

Mae Chwarae Cymru yn elusen cofrestredig, rhif 1068926 ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258. Cofrestrwyd yng Nghymru.