Mae’n cartrefi yn leoedd gwych i blant chwarae. Mae gwneud lle ac amser i dy blentyn chwarae yn eu cartref bob dydd yn bwysig. Bydd dy blentyn yn gwneud defnydd creadigol o’r gofod sydd ar gael – cornel o ystafell hyd yn oed – os oes ganddyn nhw ychydig o dameidiau chwarae a’r rhyddid i chwarae.
Mae’r adran yma’n cynnwys syniadau chwarae syml a hwyliog i dy blentyn fwynhau yn ac o amgylch y cartref – o wneud cuddfannau dan do, i chwarae yn y tywyllwch, i gemau fel chwarae cuddio.
Gellir chwarae nifer o’r syniadau chwarae tu allan yn yr ardd neu gellir eu haddasu i’w chwarae yn dy gartref. Nid ydym yn awgrymu bod angen i chi weithio drwy’r holl gemau a’r gweithgareddau hyn! Mae nhw yma i dy ysbrydoli pan fydd dy blentyn eisiau help efallai i ddewis beth i’w chwarae.
Amser sgrîn
Mae ffonau clyfar a llechi yn wych ar gyfer cadw mewn cysylltiad gyda ffrindiau a theulu ar adegau fel hyn. Mae hyn yn arbennig o wir i blant a phlant yn eu harddegau aros mewn cysylltiad â’u ffrindiau. Ond, os wyt ti’n poeni bod dy blentyn yn treulio gormod o amser o flaen sgrîn, mae ganddom ni lu o gynghorion ar gyfer cefnogi agwedd gytbwys tuag at amser sgrîn i fabanod, plant a phlant yn eu harddegau.
Pam fod fy mhlentyn yn hoffi gwneud llanast? Buddiannau chwarae poitshlyd a sut i ddelio gyda dy bryderon fel rhiant Read more
Canllaw defnyddiol ar gyfer rhieni Read more
Read more
Sawl un all eich teulu chi ei wneud? Read more
Gemau hawdd i’w chwarae adref Read more
Cefnogaeth i rieni a gofalwyr Read more
Lliwiwch rhai o’n cartŵns Read more
Mae plant angen chwarae gartref – gwybodaeth ar sut i ddelio gyda llanast a sŵn Read more
Syniadau am bethau bob dydd, rhannau rhydd, i gefnogi chwarae plant Read more
Syniadau rhad a rhad ac am ddim ar gyfer gwneud chwarae’n rhan o fywyd bob dydd gartref ac yn dy gymuned Read more
Syniadau am eitemau bob dydd y gellir eu defnyddio i chwarae a gweithgareddau i’w chwarae Read more