Syniadau chwarae ar gyfer rhieni

Tra bo gofyn i bob un ohonom lynu at y canllawiau pellhau cymdeithasol, mae dal yn bosibl inni dreulio amser y tu allan. Y cyfan sydd angen inni ei wneud yw gwneud dewisiadau sy’n ei gwneud yn haws inni gadw ein pellter.

Mae’n anodd iawn i blant reoli eu pellter pan maen nhw’n chwarae, yn enwedig pan maen nhw wedi ymgolli mewn gweithgarwch chwarae egnïol neu os oes plant eraill gerllaw, felly efallai y byddant angen ein help gyda hyn.

Efallai y bydd paratoi a chasglu detholiad o eitemau chwarae i fynd gyda chi i fan chwarae awyr agored yn helpu i gadw pethau’n ddiddorol os yw’r mannau awyr agored yn brin yn eich cymdogaeth chi. Gall eitemau chwarae syml fel peli, rhaffau, cylchau, sialc, teganau bychain fel ceir ac anifeiliaid tegan ei gwneud hi’n haws i blant gael hwyl yn eu hardal leol.

Pan allwn ni, ac os ydym yn teimlo’n ddigon iach i wneud hynny, dylem wneud ein gorau i annog chwarae’r tu allan, waeth beth fo’r tywydd. Edrychwch ar y syniadau hyn ar gyfer chwarae’r tu allan ym mhob tywydd am ysbrydoliaeth.

Chwarae’n egnïol dan do

Mae’r cartref yn le gwych i chwarae. Gall plant wneud defnydd creadigol o ddim ond cornel o ystafell os oes ganddynt rywfaint o deganau neu fanion bethau eraill, a rhyddid i chwarae.

Mae digonedd o syniadau hwyliog sydd ddim angen llawer o le, yn cynnwys hen ffefrynnau fel chwarae cuddio neu greu cuddfan gyda chlustogau a blancedi. Mae plant h?n yn dal angen lle i chwarae dan do hefyd - mae plant angen bod yn wyllt a chorfforol fel rhan o’u chwarae. Darllenwch ein blog chwarae dan do am awgrymiadau ac efallai y bydd yr awgrymiadau anhygoel hyn ar gyfer magu plant yn chwareus yn ddefnyddiol hefyd.

Bydd pellhau cymdeithasol ac ynysu cymdeithasol yn arbennig o anodd i blant yn eu harddegau. Bydd llawer o blant h?n wedi bod yn edrych ymlaen at y gwanwyn, y nosweithiau hirach a’r tywydd mwynach fel adeg i gwrdd gyda’u ffrindiau. I lawer, oedd i fod wedi mwynhau’r rhyddid i chwarae allan yn annibynnol gyda’u ffrindiau am y tro cyntaf, mae hon yn garreg filltir y bydd rhaid iddynt aros amdani bellach.

Mae canolbwyntio ar syniadau chwarae heb reolau neu sydd ddim angen dawn benodol yn hwyl i bob aelod o’r teulu, waeth beth eu hoedran, a byddant yn helpu i basio’r amser mewn ffordd chwareus. Yn ogystal, bydd y mathau hyn o weithgareddau’n darparu hwyl a diogelwch yn ystod profiad o golled ac ynysu.

Syniadau syml a doniol

Helfa Drysor
Mae helfa drysor yn ffordd wych i gadw’r plant yn brysur ac egnïol o amgylch y cartref. Os hoffech chi gychwyn yn fach, trefnwch helfa fer. Defnyddiwch focs bychan a gofyn i bawb sy’n chwarae lenwi’r bocs gyda chymaint â phosibl o eitemau diddorol ac anarferol sydd i’w cael yn y t?. Neu, chwiliwch am enfys yn y t? – gofynnwch i bawb sy’n chwarae ddod o hyd i eitemau gyda phob un o liwiau’r enfys arnynt neu rhoddwch liw penodol gwahanol i bob plentyn. Er mwyn helpu pawb i glirio, cyfnewidiwch eich eitemau fel bod rhywun arall yn rhoi’r eitemau yn ôl yn eu lle.

Gorymdaith y s? neu’r jyngl

Dangoswch i bawb:

  • Sut mae cerdded fel eliffant
  • Siglo eich pen ôl fel hwyaden
  • Sboncio fel cangar?
  • Ymlusgo fel neidr
  • Dringo fel mwnci.

Meddyliwch am fwy - sut mae jiráff, arth, malwen, llyffant, aderyn a chath yn symud?

Mainc Drawst

Defnyddiwch linell o dâp ar lawr, neu ddarn o raff, i gerdded ar ei hyd ac ymarfer cadw eich balans.

Tenis Bal?n

Gan ddefnyddio platiau papur fel racedi, pa mor hir allwch chi gadw’r bal?n oddi ar y llawr? Gwych ar gyfer gweithgaredd unigol neu gr?p. Os allwch chi fynd allan, llanwch y bal?n gyda d?r a defnyddiwch eich dwylo fel bat! Os nad oes gennych fal?ns, beth am roi tro ar sanau wedi eu rholio’n bêl.

Pêl-fasged gyda Sanau

Taflwch y sanau wedi eu rholio’n bêl i mewn i fwced, basged olchi, bag siopa neu focs esgidiau.

Disgo yn y Dydd

Rhowch gerddoriaeth ymlaen a dawnsio. Gallwch hefyd chwarae dawnsio a rhewi. Bob tro y bydd y gerddoriaeth yn stopio, pawb i sefyll yn llonydd.

Cwrs Rhwystrau
Crëwch gwrs rhwystrau dan do gan ddefnyddio clustogau, gobenyddion, byrddau bach a chylchoedd hwla. Gallwch greu mainc drawst ar lawr gyda thâp masgio, rhaff neu gareiau esgid wedi eu clymu at ei gilydd. Gellir defnyddio’r rhain hefyd i greu cylchoedd ar lawr i neidio i mewn ac allan ohonynt.

Gemau amser chwarae traddodiadol
Meddyliwch am eich gemau amser chwarae eich hun - beth am ‘Simon Says’, Mae’r Llawr yn Lafa neu Golau Coch - Golau Gwyrdd? Gofynnwch i’ch plant beth yw eu hoff gêm i’w chwarae ar fuarth yr ysgol a chwiliwch am ffordd i’w chwarae dan do.

Sgots yn y t?

Defnyddiwch dâp masgio i greu grid sgots ar lawr a chwarae gyda hosan wedi ei rholio’n bêl yn lle carreg. Wedi diwrnod neu ddau, torrwch sgwariau o blastig swigod, eu tapio yn y grid sgots a chwarae sgots swigod swnllyd!!

Amser Bol

Efallai na fydd amser bol yn gyfarwydd i fabis ar y cychwyn. Gellir ei gynyddu’n raddol, gan ddechrau gyda munud neu ddau i gychwyn, wrth i’r babi ddod i arfer gyda’r syniad. Ddylech chi ddim rhoi eich babi i gysgu ar ei fol.

Cynghorion ar gyfer amser bol:

  • Rhowch amser i’ch babi ar ei fol bob dydd. Ond cofiwch fod angen iddyn nhw fod yn effro, a bod angen cadw llygad arnyn nhw.
  • Er mwyn eu helpu i bwyso ar eu breichiau, gosodwch dywel wedi ei rolio o dan eu ceseiliau.
  • Gwnewch amser bol yn rhan o amser newid clwt / cewyn.
  • Gadewch i’ch babi symud o gwmpas, cicio a chropian mewn lle diogel.
  • Rhowch eich babi ar flanced yn yr ardd.
  • Ceisiwch annog eich babi i edrych o’i gwmpas, rholio, ac ymestyn am wrthrychau neu deganau. Cofiwch siarad a chwarae gyda’ch babi wrth wneud hyn. Ceisiwch gynnal gyswllt llygad gyda’ch babi a’i ganmol.
  • Bydd yn haws i’ch babi os byddwch yn eu gwisgo mewn dillad sy’n gadael iddyn nhw symud yn rhwydd.

Cadw’n iach

Chwarae yw’r ffordd fwyaf naturiol a phleserus i fabis, plant a phlant yn eu harddegau fod yn egnïol, cadw’n iach a bod yn hapus. Gall rhieni a gofalwyr ganfod ffyrdd syml i gynnwys amser a lle ar gyfer chwarae ym mywydau bob dydd eu plant. Gall pob math o chwarae helpu plant i fod yn fwy egnïol.

Mae chwarae gyda’n gilydd yn ffordd wych i dreulio amser fel teulu a helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a hyder plant. Gall helpu rhieni ac aelodau eraill o’r teulu i gadw’n egnïol hefyd a bydd yn cyfrannu at les gwell i bawb yn ystod cyfnodau o ansicrwydd.

Am fwy o wybodaeth am bwysigrwydd chwarae egnïol, cer at Chwarae’n egnïol yn ac o amgylch y cartref

 

Cefnogi lles plant trwy chwarae

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

Myfyrdodau rhiant sy’n addysgu gartref

Erthygl nesaf
English