Rhowch fwy o Amser i Chwarae i blant

Mae rhoi mwy o gyfleoedd i blant i chwarae yn gwneud iddynt deimlo’n hapusach ac yn fwy iachus. Dyna beth ddywedodd rhieni a phlant wrthym mewn arolwg newydd.

Rydym wedi rhannu’r arolwg i gydnabod Diwrnod Chwarae – sef diwrnod blynyddol i ddathlu hawl plant i chwarae. Mae Diwrnod Chwarae yn cael ei ddathlu gan filoedd o blant ledled Cymru a gweddill y DU i bwysleisio pwysigrwydd a gwerth chwarae ym mywydau plant.

Dywedodd bron i 70% o blant a arolygwyd bod chwarae yn gwneud iddynt deimlo’n hapus neu’n gyffrous, a hoffai 62% chwarae fwy na phum gwaith yr wythnos. Er gwaethaf hyn, meddyliai dros draean o blant bod sgrolio ar Tiktok a gwylio fideos ar YouTube yn eu hatal rhag gwneud hynny.

Ar yr un pryd, mae’r rhan fwyaf o rieni a gofalwyr ledled Cymru yn cytuno bod chwarae’n bwysig i les plant, gyda 90% yn dweud bod chwarae’n cael effaith positif ar eu hiechyd meddwl.

Canfu’r arolwg hefyd bod 90% o’r plant a holwyd yn gyffredinol hapus gyda’r mannau ble maent yn chwarae, o chwarae’r tu allan ym myd natur i chwarae ar y stryd neu ar y palmant, i chwarae mewn canolfan chwarae fel clwb ar ôl ysgol, neu ar fuarth chwarae’r ysgol, mewn parc sglefrfyrddio, neu gartref. Ond, mae 10% yn dweud allan nhw ddim gwneud unrhyw un o’r pethau yr hoffent eu gwneud yn y mannau hyn.

Mae plant wedi dweud wrthym sut y mae chwarae’n gwneud iddyn nhw deimlo, fel Aneurin York o’r Barri, sy’n 10 oed, ddywedodd ‘Dwi wrth fy modd yn chwarae achos mae’n fy helpu yn fy mywyd gyda stwff ac mae’n fy helpu i wybod sut dwi’n teimlo. Mae hefyd yn dangos i bobl sut i fynegi eu teimladau heb orfod eu cuddio oddi wrth unrhyw un’.

Wrth siarad am pam y byddai’n well ganddi fod yn chwarae, dywedodd Summer Pritchard, sy’n 13 oed, o Dreherbert. ‘Mae chwarae’n gwneud imi deimlo’n rhydd. Ac os nad oedd gen i chwarae i droi ato, fe fyddwn i yn fy ystafell yn gwylio TikTok ar fy ffôn’.

Sut gallwn ni annog mwy o chwarae

Gyda phlant, rhieni a gofalwyr yn gytûn ar werth chwarae i iechyd a hapusrwydd plant, nid yw annog plant a chreu cyfleoedd i chwarae erioed wedi bod mor bwysig.

Mae ein gwefan yn cynnwys llawer o syniadau ac adnoddau i helpu rhieni a gofalwyr i gefnogi plant o bob oed i gael yr hyn maent ei angen fwyaf o chwarae. Mae’r adnoddau’n cynnwys:

  • Canllawiau Sut i... – cyngor ac awgrymiadau ymarferol i dy helpu i wneud y gorau o bob cyfle chwarae ar gyfer dy blentyn.
  • Lle i chwarae – syniadau am leoedd i dy blentyn chwarae dan do a’r tu allan.
  • Awgrymiadau anhygoel – adnoddau i’w lawrlwytho yn ymwneud ag ystod o bynciau chwarae.


Cymryd rhan

Cadwa lygaid ar ein Facebook a’n Instagram i wylio fideos ac i glywed mwy gan blant am pam eu bod yn meddwl bod chwarae yn bwysig.

Dywed wrthym am brofiadau chwarae’r haf dy blentyn di gan ddefnyddio’r hashnod #AmserIChwarae.

 

Hiwmor mewn chwarae

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

Syniadau chwarae yn yr awyr agored

Erthygl nesaf
English