Myfyrdodau rhiant sy’n addysgu gartref

Wrth i fwy a mwy o rieni ofalu am a dysgu eu plant oedran ysgol adref o ganlyniad ibandemig Covid-19, fe ofynnom i riant sy’n addysgu eu plentyn gartref i rannu eu profiadau.

Pan benderfynom addysgu ein plentyn gartref yn gyntaf, fe ddywedodd un o’n ffrindiau rywbeth wrth ein merch ddaeth yn dipyn o fantra: “Ceisia fynd trwy’r dydd heb ddysgu unrhyw beth...”. Tra bo hyn, efallai, yn ymddangos yn groes i’r graen pan mai addysg yw’r nod, fe wnaethon ni sylweddoli’n fuan iawn ei bod hi’n gymharol amhosibl i ddysgu dim mewn diwrnod cyfan. 

Mae cymaint o gyfleoedd ar gyfer dysgu ym mhopeth y byddwn yn ei wneud ac ym mhob rhyngweithiad a gawn. Yr her i ni, fel rhieni sy’n addysgu gartref, yw pa elfennau i wir ganolbwyntio arnyn nhw. Dros y blynyddoedd rydym wedi dysgu llawer fel rhieni sy’n gweithio, sydd hefyd yn ceisio mentora a hwyluso profiadau dysgu cadarnhaol ar gyfer ein plentyn.  

Fodd bynnag, fe wnaethon ni’r penderfyniad i addysgu gartref ac, o ganlyniad, fe gawsom ddigon o amser i baratoi’r adnoddau a’r agwedd y byddem yn ei mabwysiadu i wneud hynny’n bosibl. Mae’r pandemig coronafeirws wedi gorfodi’r sefyllfa yma ar rieni, a mae’n bwysig ein bod ni’n garedig â ni’n hunain.

Amser

Fe sylweddolom ei bod yn cymryd amser i setlo i mewn i batrwm dyddiol newydd ac er bod rhyw fath o gynllun yn ddefnyddiol, ’does dim rhaid cynllunio pob eiliad o’r dydd. Fe fyddem yn eistedd i lawr bob wythnos, ac weithiau bob dydd, a siarad gyda’n merch am yr hyn yr oedd ganddi ddiddordeb ynddo, beth yr oedd am ganolbwyntio arno ar gyfer ei dysg ei hun a sut y gallem fynd ati i gefnogi ei dysg.

Fe wrandawom hefyd ar gyngor oddi wrth rieni eraill oedd yn addysgu gartref ddywedodd bod ychydig o oriau llawn ffocws mewn diwrnod yn well nag amserlen gaeth o naw tan bump. Felly, fe wnaethom amser i eistedd gyda’n gilydd a chanolbwyntio ar ddysgu mwy strwythuredig tra hefyd yn gadael digon o amser yn y dydd iddi hi ddilyn ei diddordebau ei hun fel cerddoriaeth, chwarae, tynnu lluniau a rhwydweithio cymdeithasol.

Llythrennedd a rhifedd

Wrth galon addysg mae llythrennedd a rhifedd. Mae gwefannau gwych ar gael i helpu gyda dysgu gramadeg a mathemateg ond fe sylweddolom hefyd bod llythrennedd a rhifedd yn rhedeg trwy fywyd bob dydd.

Mae coginio gyda’ch gilydd yn gyfle gwych i gynnwys mathemateg - o bwyso a mesur, i gymarebau a chreu cyllideb os byddwch chi’n cynnwys y siopa hefyd. Fe wnaethom hefyd annog ein merch i fod â llyfr darllen gyda hi bob amser ac i wneud gwaith ymchwil i bynciau sydd o ddiddordeb iddi, ac ysgrifennu nodiadau o’i chanfyddiadau er mwyn helpu gyda’i hysgrifennu.

Cwsg

Rydym wedi darllen nifer o adroddiadau ar sut y mae llawer o blant yn dioddef o ddiffyg cwsg, a bod llawer o blant yn eu harddegau’n ei chael yn anodd codi’n gynnar. Felly, fe wnaethom adael i’n merch gael cwpwl o oriau ychwanegol yn y gwely yn y bore os oedd eu hangen. Mae hyn yn ei helpu gyda’i lles meddyliol ond mae hefyd yn golygu ei bod hi’n fwy parod i wynebu’r dydd a chanolbwyntio ar yr hyn y mae’n ei wneud. Un budd arall i hyn yw ei fod yn caniatáu i ni fel rhieni, gael cwpwl o oriau ychwanegol yn y bore i weithio neu fwynhau ein diddordebau ein hunain.

Chwarae

Weithiau, bydd amser i chwarae’n cael ei wasgu allan o’r diwrnod ysgol, felly mae amser i jest fod, i ddiflasu a gadael i bethau ddigwydd yn naturiol yn un o wir fuddiannau addysgu gartref. Gallai hyn gynnwys mynd allan yn yr awyr agored neu ddim ond bod yn fwy didaro am lanast yn y cartref. Mae dysgu i ymateb yn gadarnhaol i chwarae ein plant, i roi’r rhyddid iddyn nhw wneud fel y mynnant a gwneud llanast yn hanfodol ar gyfer eu lles. Wrth inni wylio ein plant yn chwarae, byddwn hefyd yn sylweddoli gymaint y maen nhw’n dysgu heb i ni orfod cymryd yr awenau.

Sgwrsio

Mae siarad yn arf dysgu grymus iawn sydd ar gael inni. Mae nifer o brosiectau neu feysydd o ddiddordeb wedi datblygu trwy gwestiynau sydd wedi codi wrth wneud pethau eraill - tra’n chwarae, coginio, bwyta neu fynd am dro. Gall sgyrsiau roi cyfeiriad inni helpu i lywio’r ffordd y bydd ein plant yn dysgu am y byd ar gyflymder sy’n gweddu iddyn nhw yn hytrach na trwy gwricwlwm caeth.

Cymdeithasoli

Rydym wastad wedi chwilio am gyfleoedd i’n plant gymdeithasu gyda’u ffrindiau draw o’r cartref a’r tu allan i addysgu ffurfiol. Gyda’r cyfyngiadau presennol ar symud, mae hyn yn golygu canfod ffyrdd iddyn nhw gymdeithasu o hirbell gan ddefnyddio’r dechnoleg sydd ar gael inni. Mae hefyd yn golygu ymlacio rhywfaint ynghylch chwarae gemau cyfrifiadurol ar-lein a’r cyfryngau cymdeithasol sy’n cynnig cysylltiad gwerthfawr gyda’i chyfoedion.

Bod yn garedig i’n hunain

Mae bod yn rhiant sy’n addysgu gartref yn dasg hynod o anodd, ac mae’n cymryd amser i ganfod rhythm naturiol ar gyfer eich hunan a’ch plentyn neu eich plant. Wrth neilltuo amser ar gyfer eich gwaith neu eich gwaith t?, mae’n bwysig iawn datblygu rhywfaint o ffydd y bydd ein plant yn dal i ddysgu heb lawer o gyfarwyddyd. Mae amser i’w hunain neu gyda goruchwyliaeth hyd braich oddi wrthym ni yn gyfle hefyd iddyn nhw ddysgu am bethau nad ydyn nhw wedi dysgu amdanynt yn yr ysgol eto, i ddatblygu diddordebau mewn pethau newydd neu i ddilyn hobïau.  

Byddwch yn realistig am yr hyn y gofynnwyd ichi ei wneud a chymerwch amser i gynnal perthnasau rhiant-plentyn cadarnhaol - mesur dros dro yw hwn a wnewch chi ddim tanseilio addysg eich plentyn trwy beidio cwmpasu’r cwricwlwm cyfan.  

Yn ystod y flwyddyn y buom yn addysgu ein merch gartref, fe wnaethom ganolbwyntio ar gynnal sgiliau rhifedd a llythrennedd yn gymharol anffurfiol ac yna sicrhau bod digon o amser ar gyfer diddordebau personol, chwarae ac ymlacio heb unrhyw effaith anfanteisiol ar ei pherfformiad academaidd cyffredinol unwaith iddi ddychwelyd i’r ysgol.

Syniadau chwarae ar gyfer rhieni

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

“Dwi’n bôôôôred!”

Erthygl nesaf
English