Hiwmor mewn chwarae

Yn yr erthygl blog gwadd hon, mae’r Dr Amy Paine yn siarad am bwysigrwydd hiwmor mewn chwarae ar gyfer datblygiad plant

Wrth i frawd a chwaer chwarae gyda’i gilydd, mae’r chwaer yn tynnu het môr-leidr oddi ar ben ei brawd a’i thaflu ar draws yr ystafell. Gan chwerthin, mae ei brawd yn esgus tywallt d?r i mewn i gwpan a’i ‘daflu’ drosti. Mae hithau’n rhedeg i godi’r tebot, a gweiddi, “Tywallt! Tywallt-tywallt-tywallt-tywallt!” tra’n smalio tywallt cynnwys y tebot drosto. Mae’r brawd yn syrthio i’r llawr yn ddramatig ac mae’r ddau’n gwichian a chwerthin.

Efallai na fydd digwyddiadau gwirion fel hyn yn synnu llawer o rieni. Ac i lawer o bobl, bydd rhai o atgofion melysaf plentyndod yn adegau a dreuliwyd yn chwerthin ac yn gwneud pethau gwirion a doniol gyda ffrindiau a theulu agos.

Ond a oes pethau difrifol yn digwydd yng nghanol yr holl wiriondeb? Yn ein hymchwil, rydym yn cymryd camau i ddysgu pam ei bod hi mor bwysig i blant rannu hiwmor a chwerthin yn eu perthnasau agos.

Sut mae plant yn rhannu hiwmor?

O oedran ifanc, mae plant wrth eu bodd yn profi a rhannu digwyddiadau annisgwyl neu ryfeddol. Yn ystod y chwe mis cyntaf, mae llawer o fabis yn cael eu diddanu gan gemau o chwarae pi-po a dechrau chwarae gwirion gyda’r bobl sy’n gofalu amdanynt.

Wrth i blant ddatblygu, mae eu hiwmor yn tyfu’n fwyfwy amrywiol a chymhleth. Bydd plant bach yn plygu’r rheolau’n chwareus, camenwi gwrthrychau (galw’r ci yn gath), chwarae gyda chysyniadau (gwneud i gath ddweud “bow-wow”) a dweud geiriau nonsens (“Gw-gw-gaga”).

Wedi’r blynyddoedd dan oed ysgol, mae plant yn dechrau chwarae gyda geiriau mewn ffyrdd mwy cymhleth. Maent yn creu a dweud rhigymau a jôcs (hyd yn oed os ydi’r llinell glo yn amrywio weithiau!). Er bod plant h?n yn rhannu hiwmor mwy cymhleth gydag iaith, mae ein hymchwil yn dangos eu bod yn dal i fwynhau gweithredoedd syml sy’n gwneud i bobl eraill chwerthin.

Pam fod hiwmor yn bwysig?

Rydym yn gwybod bod chwarae’n allweddol bwysig ar gyfer datblygiad a lles plant. Mae hiwmor yn rhan bwysig o chwarae sy’n helpu plant i gysylltu gydag eraill a chreu perthnasau cadarnhaol, cynnes, er enghraifft gyda’u brodyr a’u chwiorydd a’u ffrindiau. Hefyd, efallai y bydd hiwmor yn helpu plant i ymdopi gyda straen a phryder.

Ond ydi rhannu hiwmor yn gysylltiedig gyda datblygiad sgiliau pwysig eraill yn ystod plentyndod? Yn ein hastudiaeth ddiweddaraf, fe edrychom ar chwarae llawn hiwmor plant saith oed gyda brodyr a chwiorydd, pan roddwyd teganau gwisgo i fyny iddyn nhw chwarae’n rhydd gyda nhw adref. Yn ogystal, fe chwaraeodd y plant gyda theganau ar eu pennau eu hunain a chwblhau tasgau a ddyluniwyd i ddefnyddio eu sgiliau cymdeithasol, emosiynol a gwybyddol.

Fe wnaethom ganfod bod rhai mathau o hiwmor plant pan oedden nhw’n chwarae gyda brodyr a chwiorydd, yn cynnwys chwarae gyda s?n (er enghraifft, siarad mewn llais gwichlyd iawn neu lais cras) a phryfocio chwareus (fel ymddygiad ysgafngalon, chwareus, direidus) yn gysylltiedig gyda gallu plant i ddeall emosiynau a meddyliau pobl eraill.

Fe wnaethom ganfod hefyd bod hiwmor plant gyda’u brodyr a’u chwiorydd yn gysylltiedig gyda sut yr oeddent yn chwarae smalio ar eu pennau eu hunain (er enghraifft, gwneud effeithiau sain, bywiogi teganau bach) sy’n dangos bod hiwmor a chwarae smalio yn ddwy ffordd y gall plant fod yn llawn dychymyg. 

Gadael i wiriondeb deyrnasu!

Gall chwarae fod o ddifrif, ac fe all fod yn wirion. Pan fydd plant yn rhannu hiwmor gydag eraill, mae’n dangos eu bod yn arbrofi gyda’r hyn y maent wedi ei ddysgu am y byd trwy blygu’r rheolau a chreu ffyrdd newydd ac unigryw i chwarae. Ond yn fwy na hynny, mae rhannu hiwmor a chwerthin yn llawen a hwyliog, a gall gynnig rhywfaint o ryddhad yn ystod adegau o ansicrwydd a phryder.

Gallwn gefnogi plant orau trwy roi amser, lle, a chaniatâd iddyn nhw archwilio gwahanol fathau o chwarae – yn cynnwys hiwmor – hyd yn oed os y gall fod yn swnllyd ac yn afreolus ar brydiau. Ac i rieni, mae ymuno yn chwarae eich plentyn a rhannu ei syniadau doniol yn ffordd wych i fwynhau amser gyda’ch gilydd ac i greu atgofion hwyliog, hirhoedlog.

Mae Amy yn Ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn Brif Ymchwilydd y prosiectau ‘Humour in Childhood: Pathways to Better Wellbeing’ a ‘Laughing all the Way to Better Wellbeing in Childhood’.

Chwarae gartref yn ystod y gwyliau

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

Rhowch fwy o Amser i Chwarae i blant

Erthygl nesaf
English