“Dy’n ni ddim mor wahanol i chi, ’dan ni jesd yn gwneud tiktoks”

“Fydden ni jest yn hoffi i oedolion fod yn iawn gyda’r ffaith ein bod yn y parc pan ydyn ni am fod yno, a gwybod nad ydyn ni’n gwneud dim byd o le. Fel arfer bydd gr?p mawr ohono’ ni yn y diwedd, ac rydyn ni gyd yn hoffi cael hwyl gyda’n gilydd ar ôl ysgol."

Dyma ddywedodd Celyn, 12 oed, wrthym. Mae arddegwyr o bob cwr o Gymru wedi bod yn rhannu eu profiadau o chwarae a chymdeithasu gyda’u ffrindiau, a’r heriau maent yn eu hwynebu yn eu cymunedau.

Felly, rydym ni eisiau atgoffa oedolion bod gan bob plenty hawl i le i chwarae – gan gynnwys arddegwyr. Rydym eisiau annog pawb i fod yn fwy goddefgar o arddegwyr mewn mannau a rennir, achos, fel mae’n digwydd, dydyn ni ddim mor wahanol a hynny wedi’r cwbwl…

Meddyliwch am eich bywyd chi yn eich arddegau. Efallai bod llai o dechnoleg a bod y ffasiwn yn wahanol, ond efallai y cewch eich synnu i sylweddoli pa mor debyg oedd eich profiadau chi i rai plant yn eu harddegau heddiw.

Ychwanegodd Celyn:

“Dwi’n siarad gyda fy rhieni am beth oedden nhw’n ei wneud pan oedden nhw fy oed i, a dydi o ddim mor wahanol â hynny! Dwi’n treulio lot o amser yn y parc gyda fy ffrindiau ac eistedd ar y meinciau fel oedden nhw. Ond mae gyda ni ffonau a phethau heddiw, felly rydyn ni’n creu TikToks a defnyddio SnapChat.”

Dywedodd Cerys, mam Celyn:

“Er ei bod hi’n gallu bod yn anodd gadael i’n plentyn yn ei harddegau fynd allan a chwarae gyda’i ffrindiau heb i ni fod o gwmpas, mae hyn i gyd yn rhan o dyfu i fyny a gadael iddi ddod i adnabod ei hun. Fe dreuliais i lawer o fy arddegau’n cymdeithasu mewn parciau ac ar strydoedd fy mhentref, aros allan yn llawer hwyrach nag oeddwn i fod a smalio fy mod wedi anghofio faint o’r gloch oedd hi, felly r?an dwi’n dysgu fel rhiant sut i dderbyn bod fy merch yn ei harddegau’r un fath!”

Cymryd rhan 

Rydym eisiau creu nostalgia a hel atgofion ymysg oedolion yng Nghymru, gan helpu i bontio’r bwlch oedolion ac arddegwyr heddiw, yn enwedig mewn mannau cyhoeddus.

Rhannwch eich atgofion o chwarae yn eich arddegau gan ddefnyddio’r hashnod #PanOnIDyOedDi ar Facebook ac Instagram, fel rhan o brosiect “Pan o’n i dy oed di”.

Darllen mwy am “Pan o’n i dy oed di”

Syniadau chwarae yn yr awyr agored

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

Mae gan bob plentyn yr hawl i chwarae

Erthygl nesaf
English