Chwarae ar hyd y lle

Gofynnon ni i fam a merch rannu eu teimladau am y tro cyntaf y cafodd Maisie fynd i’r parc lleol heb oedolyn.

Maisie ydw i, rydw i’n 10 oed ac rydw i’n mynd i ddweud wrthoch chi am fy mhrofiadau chwarae pan fydda i’n mynd allan gyda fy ffrindiau heb oedolyn. Dw i fel arfer yn mynd allan gyda fy ffrindiau ar ddydd Sadwrn. Mae’n well gen i fynd allan efo nhw na gyda oedolyn achos rwyt ti’n cael llawer mwy o ryddid pan wyt ti allan. Yn ystod gwyliau’r haf rydw i wedi bod yn mwynhau beicio o amgylch y pentref a mynd i’r ddau barc (dydyn nhw ddim yn dda iawn). Weithiau mae Mam yn bod yn rhy amddiffynnol ohonof fi a dydy hi ddim yn gadael i fi gael cymaint o ryddid â dw i eisiau i fynd o gwmpas y pentref, ond dwi’n gallu deall hynny mewn ffordd.

Y tro cyntaf es i i’r parc ar fy mhen fy hun roeddwn i’n teimlo’n gyffrous, yn nerfus ac yn swil. Pan dwi’n mynd allan gyda ffrindiau, dyma’r pethau dw i’n meddwl amdanyn nhw: fy mod i neu un o’m ffrindiau’n cael ein bwrw gan gar, yn torri asgwrn neu’n brifo, yn syrthio oddi ar y beic neu o goeden, ‘peryglon dieithriaid’ a mynd ar goll, hyd yn oed, yn fy mhentref fy hun! Felly dwi’n fwy gofalus pan dw i ar fy mhen fy hun.

Es i allan gyda ffrindiau y diwrnod o’r blaen a buodd bechgyn h?n yn gas iawn wrthyn ni, yn galw enwau drwg a chas arnon ni, yn dod ar ein holau ar eu beics ac yn taflu pethau atom ni. Felly dwi’n fwy ymwybodol nawr o beidio mynd yn agos at arddegwyr h?n a gwneud yn si?r bod fy ffrindiau ddim yn ateb nhw’n ôl os byddwn ni’n eu gweld nhw.

Nawr, hoffen i fynd i fannau eraill ymhellach o nghartre, fel i’r dref neu i’r Mwmbwls, felly dwi am ddal ati i swnian wrth Mam nes bod hi’n gadael imi fynd!

A dyma safbwynt Katie, ei mam ...

Ro’n i wastad wedi meddwl y baswn i’n poeni’n fawr am Maisie pan fyddai hi’n dechrau mynd allan ar ei phen ei hun gyda’i ffrindiau, ond pan ddigwyddodd hynny, wnes i ddim. Mae gen i atgofion melys o fod yn rhyw 11 oed ac yn beicio o amgylch y pentref, yn chwarae mob ar sgwâr y pentref ac yn cicio’n sodlau o gwmpas y lle. Dwi’n meddwl mod i wedi sylweddoli bod hi’n barod am yr annibyniaeth yna.

Bu Maisie’n cerdded i’r ysgol ar ei phen ei hun a gyda ffrindiau yn eitha rheolaidd llynedd (roedd hi’n 10 oed ac ym mlwyddyn 5 yn yr ysgol) ac, un dydd Sadwrn ar ddechrau gwyliau’r haf fe ofynnodd gâi hi fynd i’r parc gyda’i ffrindiau. Bu’r iPod yn canu drwy’r bore wrth iddi hi a’i ffrindiau drefnu ble a phryd i gyfarfod. Yr unig beth oedd yn fy mhoeni bryd hynny (ac eithrio’r traffig, sydd wastad yn bryder) oedd fy mod innau’n mynd allan a beth fyddai hi’n ei wneud petai problem gan fod dim ffôn ei hun gan Maisie ... ar hyn o bryd!

Doedd hi’n poeni dim a rhoddodd restr gyfan o gartrefi ffrindiau a pherthnasau y gallai fynd iddyn nhw pe bai unrhyw broblemau (mae Maisie’n arswydo mod i wedi defnyddio’r ddadl hon ers hynny i gyfiawnhau peidio â rhoi ffôn iddi).

Roedd hi’n amlwg bod Maisie wedi cael blas ar y rhyddid, wedi prynu does wybod faint o losin a diodydd pefriog o’r siop leol a’i bod wrth ei bodd gyda’i hannibyniaeth newydd.

Ers hynny mae hi wedi mynd allan yn aml i’r parc ac o gwmpas y pentref. Mae hi wastad yn cyrraedd adre 15 munud yn hwyr, felly dwi’n newid ei hamser dychwelyd yn unol â hynny ac er ei bod hi a’i ffrindiau wedi cael profiad annymunol gyda rhyw fechgyn cas 14 oed yn ddiweddar, mae hi’n dal i fod wrth ei bodd yn cael rhyddid i fynd allan i chwarae heb oruchwyliaeth.

“Dwi’n bôôôôred!”

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

Boncyrs am concyrs

Erthygl nesaf
English