Canllaw chwarae adref

Er gwaetha’r pandemig presennol, bydd dy blant yn dal angen ac eisiau chwarae. Mae cael cyfle i chwarae’n rhan bwysig o blentyndod hapus ac iach i bobl plentyn. Mae’n bwysig gwneud lle ac amser i dy blant chwarae gartref bob dydd.

Rydym wedi creu canllaw defnyddiol er mwyn dy helpu i gefnogi dy blant i gael digon o gyfleoedd da i chwarae. Mae’r Canllaw chwarae adref yn cynnig awgrymiadau, syniadau ac argymhellion am chwarae ar gyfer pob plentyn – beth bynnag fo’u hoedran.

Mae’r canllaw yn cynnwys gwybodaeth am:

  • Pam fod chwarae’n bwysig i dy blentyn di
  • Cefnogi lles plant trwy chwarae
  • Magu plant yn chwareus
  • Amser sgrîn – ar gyfer plant o bob oedran
  • Paratoi dy blentyn i chwarae’r tu allan yn hyderus

… a digonedd o syniadau chwarae syml a rhad ac am ddim ar gyfer y teulu cyfan.

Efallai y bydd Canllaw chwarae adref yn ddefnyddiol i dy deulu a ffrindiau hefyd – mae croeso i ti ei rannu.

Darllen Canllaw chwarae adref

 

Beth am i ni fynd allan i chwarae?!

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

Syniadau chwarae dan do ar gyfer hanner tymor

Erthygl nesaf
English